prev
next
play
pause

Cymorth bwydo o'r fron

Clinig ymwelydd iechyd, gyda Meg

Clinig ymwelydd iechyd, gyda Caroline

Gwasanaeth Ymwelwyr Iechyd

Nyrsys Iechyd y Cyhoedd yw Ymwelwyr Iechyd. Maent yn gweithio gyda theuluoedd i hybu iechyd da ac atal salwch. Mae Ymwelwyr Iechyd Dechrau’n Deg yn cynnig gwasanaeth gwell, yn y cartref sydd wedi’i deilwra i anghenion unigol y teulu.

Caiff teuluoedd yn ardal Dechrau’n Deg Ymwelydd Iechyd penodol a fydd yn cefnogi’r teulu o’r cyfnod cyn-geni tan fod plant y teulu hwnnw yn 5 oed. Mae Rhaglen Plant Iach Cymru yn nodi cysylltiadau allweddol ar gyfer teuluoedd Dechrau’n Deg.

  • Cyswllt cyn-geni o 24 wythnos y beichiogrwydd.
  • Ymweliad rhwng 10 a 14 diwrnod ar ôl i’ch babi gael ei eni.
  • Ymweliadau cartref wythnosol hyd nes bod eich babi yn 6 wythnos oed.
  • Brechiadau sylfaenol yn eich meddygfa pan fydd eich babi yn 8, 12 a 16 wythnos oed.
  • Yn ogystal, cynigir ymweliad cartref pan fydd eich babi rhwng 8 a 16 wythnos.
  • Ymweliadau cartref pan fydd eich babi yn 6 mis oed a rhwng 9 a 12 mis oed.
  • Brechiadau wedi eu trefnu pan fydd eich plentyn yn 12 mis oed.
  • Mae pob plentyn yng Nghymru yn cael asesiad datblygiadol yn 15 mis oed.
  • Cynhelir asesiad lleferydd ac iaith pan fydd eich plentyn rhwng 18 a 24 mis oed. Cynigir lle gofal plant am ddim i blant Dechrau’n Deg o’r tymor ysgol cyntaf ar ôl eu hail ben-blwydd.
  • Mae pob plentyn yng Nghymru yn cael asesiad datblygiadol yn 27 mis oed.
  • Brechiadau cyn-ysgol yn 3 blwydd a 4 mis oed.
  • Pan fydd eich plentyn yn 5 mlwydd oed, bydd ei gofnod iechyd yn cael ei drosglwyddo i nyrs yr ysgol.

I weld holl glinigau Dechrau’n Deg, cliciwch fan hyn.

Yn ystod yr ymweliadau hyn bydd Ymwelwyr Iechyd Dechrau’n Deg yn asesu twf a datblygiad babanod ac yn rhoi cyngor ynghylch materion gwella iechyd allweddol fel brechiadau, bwydo babanod, diddyfnu, gofal iechyd y geg a diogelwch yn y cartref. Maent hefyd yn cynnal cymorthfeydd galw heibio cyson y gallwch eu mynychu rhwng ymweliadau cartref.

Caiff Ymwelwyr Iechyd Dechrau’n Deg eu cefnogi gan y tîm Dechrau’n Deg ehangach sy’n cynnwys Therapyddion Lleferydd, Deietegydd, Bydwraig, Gofal Cymdeithasol ac ystod o Swyddogion Cymorth, sy’n cynnig cymorth wedi’i dargedu yn y cartref. Gyda’i gilydd, maent yn ceisio cefnogi teuluoedd er mwyn rhoi’r dechrau gorau posibl mewn bywyd i’w plant.

Gwasanaeth prydlon iawn, diolch.
Posted by Rhiant, o Sir Gaerfyrddin
Call Now Button