Gwasanaeth Ymwelwyr Iechyd
Nyrsys Iechyd y Cyhoedd yw Ymwelwyr Iechyd. Maent yn gweithio gyda theuluoedd i hybu iechyd da ac atal salwch. Mae Ymwelwyr Iechyd Dechrau’n Deg yn cynnig gwasanaeth gwell, yn y cartref sydd wedi’i deilwra i anghenion unigol y teulu.
Caiff teuluoedd yn ardal Dechrau’n Deg Ymwelydd Iechyd penodol a fydd yn cefnogi’r teulu o’r cyfnod cyn-geni tan fod plant y teulu hwnnw yn 5 oed. Mae Rhaglen Plant Iach Cymru yn nodi cysylltiadau allweddol ar gyfer teuluoedd Dechrau’n Deg.
- Cyswllt cyn-geni o 24 wythnos y beichiogrwydd.
- Ymweliad rhwng 10 a 14 diwrnod ar ôl i’ch babi gael ei eni.
- Ymweliadau cartref wythnosol hyd nes bod eich babi yn 6 wythnos oed.
- Brechiadau sylfaenol yn eich meddygfa pan fydd eich babi yn 8, 12 a 16 wythnos oed.
- Yn ogystal, cynigir ymweliad cartref pan fydd eich babi rhwng 8 a 16 wythnos.
- Ymweliadau cartref pan fydd eich babi yn 6 mis oed a rhwng 9 a 12 mis oed.
- Brechiadau wedi eu trefnu pan fydd eich plentyn yn 12 mis oed.
- Mae pob plentyn yng Nghymru yn cael asesiad datblygiadol yn 15 mis oed.
- Cynhelir asesiad lleferydd ac iaith pan fydd eich plentyn rhwng 18 a 24 mis oed. Cynigir lle gofal plant am ddim i blant Dechrau’n Deg o’r tymor ysgol cyntaf ar ôl eu hail ben-blwydd.
- Mae pob plentyn yng Nghymru yn cael asesiad datblygiadol yn 27 mis oed.
- Brechiadau cyn-ysgol yn 3 blwydd a 4 mis oed.
- Pan fydd eich plentyn yn 5 mlwydd oed, bydd ei gofnod iechyd yn cael ei drosglwyddo i nyrs yr ysgol.
I weld holl glinigau Dechrau’n Deg, cliciwch fan hyn.
Yn ystod yr ymweliadau hyn bydd Ymwelwyr Iechyd Dechrau’n Deg yn asesu twf a datblygiad babanod ac yn rhoi cyngor ynghylch materion gwella iechyd allweddol fel brechiadau, bwydo babanod, diddyfnu, gofal iechyd y geg a diogelwch yn y cartref. Maent hefyd yn cynnal cymorthfeydd galw heibio cyson y gallwch eu mynychu rhwng ymweliadau cartref.
Caiff Ymwelwyr Iechyd Dechrau’n Deg eu cefnogi gan y tîm Dechrau’n Deg ehangach sy’n cynnwys Therapyddion Lleferydd, Deietegydd, Bydwraig, Gofal Cymdeithasol ac ystod o Swyddogion Cymorth, sy’n cynnig cymorth wedi’i dargedu yn y cartref. Gyda’i gilydd, maent yn ceisio cefnogi teuluoedd er mwyn rhoi’r dechrau gorau posibl mewn bywyd i’w plant.