Gwasaneth Iaith Gynnar
Mae siarad mor bwysig.
Bydd cyfathrebu a siarad yn rheolaidd â’ch babi o’r enedigaeth (ac yn ystod y beichiogrwydd), a chynnig ystod eang o weithgareddau ysgogol iddo/iddi, yn helpu gallu plentyn i siarad i ddatblygu’n llawn er mwyn ei helpu i ddysgu, i lwyddo ac i fod yn barod ar gyfer yr ysgol.
Iaith A Chwarae
Mae Dechrau’n Deg yn cynnig sesiynau Iaith a Chwarae sy’n darparu amrywiaeth o weithgareddau chwarae er mwyn datblygu iaith, sgiliau cyfathrebu a chymdeithasol mewn ffordd hwyliog a rhyngweithiol ar gyfer rhieni a’u phlant. Mae’r sesiynau’n cynnwys Amser Stori, Rhannu Llyfrau, Canu, Chwarae Anniben a Gweithgareddau Crefftau. Mae Dechrau’n Deg yn darparu sesiynau Iaith a Chwarae i fabanod rhwng 0 a 15 mis oed ac wrth i blant dyfu a datblygu, mae sesiynau Iaith a Chwarae pellach ar gael ar gyfer plant bach rhwng 16 mis a 3 oed.*
*Dim ond ar gyfer teuluoedd o fewn Ardaloedd Dechrau’n Deg
Cefnogaeth Ychwanegol.
Lle nodwyd gan eu Hymwelwyr Iechyd fod y plant ar ei hôl hi o ran eu sgiliau iaith, mae Therapi Iaith a Lleferydd hefyd ar gael ar gyfer teuluoedd Dechrau’n Deg a’u plant ar sail un-i-un yn y cartref. Gellir cynnig pecynnau Rhyngweithio rhwng Oedolyn a Phlentyn am bedair wythnos sy’n cynnwys gweithio gyda rhieni i addasu eu sgiliau rhyngweithio er mwyn iddynt allu cefnogi eu plant sy’n dysgu siarad yn ddyddiol. Ynghyd â hyn, gellir darparu rhaglenni iaith a lleferydd wedi’u targedu am chwe wythnos yn y cartref neu’r feithrinfa a darparu cyngor a gweithgareddau i rieni allu parhau i ymarfer gyda’u plant.
*Mae cymorth Lleferydd ac Iaith arbenigol ar gael dim ond os yw gweithiwr iechyd proffesiynol wedi nodi bod ei angen ar eich plentyn.
Beth yw gwaith y Tîm Lleferydd ac Iaith?
Mae’r Gwasanaeth Therapi Lleferydd ac Iaith yn cynnig cymorth i rieni er mwyn annog ysgogiad cynnar, hyrwyddo lleferydd, iaith a chyfathrebu ymysg babanod newydd-anedig a phlant bach. Caiff negeseuon allweddol ‘Dysgu Siarad’ eu hyrwyddo i holl deuluoedd Dechrau’n Deg ac mae grwpiau Clebran Baban, sy’n symud o gwmpas y sir, ar gael i rieni babanod rhwng 0 a 9 mis.
Cyfeiriad
Dechrau’n Deg
Cyn Ysgol Babanod y Morfa
Heol Newydd
Morfa
Llanelli
SA15 2DQ
Ffôn
01554 742447
E-bost
Dechraundeg@sirgar.gov.uk