Cwestiynau Cyffredin o ran Gofal Plant Dechrau’n Deg

Flying Start Carmarthenshire, Carmarthenshire County Council, NHS, Welsh Government

Cymhwysedd

Beth yw'r diffiniad o blentyn cymwys?
Os yw eich plentyn yn byw mewn ardal Dechrau’n Deg, gall gael mynediad i Ofal Plant Dechrau’n Deg o’r tymor yn dilyn ei ail ben-blwydd hyd at ddiwedd y tymor pan mae’n troi’n dair oed. Mae dyddiadau cau penodol ar gael lle mae’n rhaid i’ch plentyn fod yn 2 flwydd oed i fod yn gymwys i gael gofal plant y tymor canlynol.

Nid wy'n credu fydda' i'n gymwys, sut alla i gadarnhau?
Yn ddiweddar, rydym wedi ehangu’r ardaloedd sy’n gymwys i dderbyn Gofal Plant Dechrau’n Deg, felly os nad ydych wedi gwneud hynny eisoes, byddem yn eich annog i ddefnyddio ein gwiriwr cod post i gadarnhau a ydych yn gymwys.
Mae codau post eraill o'm cwmpas yn gymwys, rwy'n credu dylid cynnwys fy nghod post i.
Mae Dechrau’n Deg yn rhaglen sydd wedi’i thargedu’n ddaearyddol sy’n defnyddio data budd-dal incwm, sef dangosydd anuniongyrchol ar gyfer tlodi, i dargedu’r ardaloedd sydd â’r cyfrannau uchaf o blant 0-3 oed sy’n byw mewn cartrefi budd-dal incwm. Mae’r ardaloedd hyn wedi’u clustnodi gan ddefnyddio Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru, data gan yr Adran Gwaith a Phensiynau a Chyllid a Thollau Ei Fawrhydi, ac yn cael eu rhannu fesul Ardaloedd Cynnyrch Ehangach Haen Is.
Mae ffiniau gan yr ardaloedd cynnyrch ehangach is sy’n golygu bod rhai codau post sydd yn ymyl ei gilydd mewn gwahanol ardaloedd cynnyrch ehangach haen is. Fodd bynnag, os ydych yn credu bod eich cod post chi yng nghanol codau post cymwys eraill, cysylltwch â ni fel y gallwn gadarnhau hyn ar eich rhan.
Pam nad yw'r gofal plant ar gael i bob plentyn 2 oed?
Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i gyflwyno darpariaeth blynyddoedd cynnar fesul cam er mwyn cynnwys pob plentyn dwy flwydd oed. Cafodd Cam 1 y broses o ehangu Dechrau’n Deg ei lansio ym mis Medi 2022 ac mae’n cynnwys pob un o bedair elfen rhaglen Dechrau’n Deg, Ymweliadau Iechyd gwell, cymorth ar gyfer lleferydd, iaith a chyfathrebu, cymorth rhianta a gofal plant o ansawdd da. Mae Cam 2, o Ebrill 2023, yn canolbwyntio ar gyflwyno’n raddol elfen gofal plant rhan-amser o safon uchel Dechrau’n Deg i blant 2-3 oed. Bydd Cam 3 yn pwyso a mesur yr hyn sy’n ofynnol o bosib i gyrraedd sefyllfa lle bydd darpariaeth Dechrau’n Deg i blant ym mhob cwr o Gymru. Nid yw Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau hyd yn hyn pryd mae hyn yn debygol o ddechrau.
Rwy'n gweithio felly pam na all fy mhlentyn gael mynediad at y gofal plant dim ond achos nad ydw i'n byw yn y cod post cywir?
Rhaglen Blynyddoedd Cynnar gan Lywodraeth Cymru yw Dechrau’n Deg sy’n benodol ar gyfer teuluoedd sydd â phlant dan 4 oed sy’n byw yn rhai o ardaloedd mwyaf difreintiedig Cymru. Nod Dechrau’n Deg yw gwneud gwahaniaeth pendant i gyfleoedd bywyd plant drwy liniaru effaith tlodi, sy’n gysylltiedig â chanlyniadau bywyd gwael yn ystod plentyndod cynnar, gan gynnwys canlyniadau iechyd.
Nid yw’r rhaglen yn gysylltiedig â bandiau’r dreth gyngor. Mae Dechrau’n Deg yn rhaglen sydd wedi’i thargedu’n ddaearyddol sy’n defnyddio data budd-dal incwm, sef dangosydd anuniongyrchol ar gyfer tlodi, i dargedu’r ardaloedd sydd â’r cyfrannau uchaf o blant 0-3 oed sy’n byw mewn cartrefi budd-dal incwm. Mae’r ardaloedd hyn wedi’u clustnodi gan ddefnyddio Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru, data gan yr Adran Gwaith a Phensiynau a Chyllid a Thollau Ei Fawrhydi, ac yn cael eu rhannu fesul Ardaloedd Cynnyrch Ehangach Haen Is.
Beth sy'n digwydd lle mae rhieni wedi gwahanu ond heb fod yn rhannu gwarchodaeth gyfartal dros blentyn?
Mae eich plentyn yn gymwys ar gyfer Dechrau’n Deg yn y cyfeiriad lle mae’n byw’r rhan fwyaf o’r amser, a’r rhiant hwnnw ddylai wneud cais.
Beth sy'n digwydd mewn teuluoedd lle mae rhieni'n byw ar wahân ond yn rhannu gwarchodaeth gyfartal dros blentyn?
Mae angen enwebu un rhiant fel rhiant arweiniol a bydd angen iddo/iddi fyw mewn Ardal Dechrau’n Deg. Mae’r ffordd caiff yr oriau a ariennir eu defnyddio gan y ddau riant yn fater iddyn nhw gytuno arno.
Beth sy'n digwydd os yw fy mhlentyn yn cael mynediad i ofal plant Dechrau'n Deg ond fy mod i wedi symud i gyfeiriad newydd yn Sir Gâr?
Rhaid i chi neu’ch darparwr gofal plant gwblhau ffurflen newid cyfeiriad i roi gwybod i ni am y cyfeiriad newydd. Os ydych wedi symud i ardal Dechrau’n Deg arall, bydd eich plentyn yn gallu parhau i dderbyn y cyllid. Ond os nad ydych, efallai bydd yn rhaid i’ch cyllid ddod i ben. Mewn rhai amgylchiadau gallech barhau i dderbyn y cyllid drwy allgymorth Dechrau’n Deg. Yn yr achosion hyn, efallai gofynnir i chi gwblhau newid i’ch cais presennol.
Beth sy'n digwydd os yw fy mhlentyn yn cael mynediad i ofal plant Dechrau'n Deg yn Sir Gâr ac rydym yn symud i ardal awdurdod lleol newydd?
Rhaid i chi neu’ch darparwr gofal plant gwblhau ffurflen newid cyfeiriad i roi gwybod i ni am y cyfeiriad newydd. Yna, mae angen i chi wneud cais newydd i’r awdurdod lleol newydd. Bydd yr awdurdod lleol yn gwirio a yw eich plentyn yn gymwys ac yn cwblhau’r gwiriadau angenrheidiol.
A allaf i ddewis lleoliad gofal plant sy'n agosach i ble rwy'n byw?
Gallwch. Os yw eich plentyn wedi’i gymeradwyo ar gyfer gofal plant Dechrau’n Deg, byddwn yn ariannu’r lleoliad yn unrhyw un o’n darparwyr gofal plant Dechrau’n Deg cymeradwy. Nid oes rhaid mai’r lleoliad agosaf i ble rydych yn byw ydyw.

Cael mynediad at ofal plant Dechrau’n Deg

Faint o oriau o ofal plant gaiff eu hariannu?
Mae Gofal Plant Dechrau’n Deg ar gael am uchafswm o 12.5 awr yr wythnos, am 39 wythnos fel arfer yn ystod y tymor.
Pa amserau o'r dydd gellir cael mynediad i Ofal Plant Dechrau'n Deg?
Mae sesiynau gofal plant rhan-amser a safonol Dechrau’n Deg yn canolbwyntio ar wella canlyniadau i blant a chefnogi eu pontio i addysg gynnar a thu hwnt. Er mwyn sicrhau’r budd mwyaf, dylai’r sesiynau fod yn 2½ awr y dydd, 5 diwrnod yr wythnos. Er bod rhywfaint o hyblygrwydd o ran hyn, y gellir ei drafod yn unigol, byddem yn annog plant i gael mynediad i sesiwn Dechrau’n Deg sydd heb fod yn gwrthdaro ag amseroedd cwsg na chinio.
A oes cyfyngiad ar nifer yr oriau y gellir cael mynediad i Ofal Plant Dechrau'n Deg yn ystod unrhyw un diwrnod?
Oes. Dylai’r sesiynau fod am 2.5 awr y dydd, 5 diwrnod yr wythnos, fel bod y plentyn yn cael y budd mwyaf o’r rhaglen. Fodd bynnag, mewn rhai amgylchiadau, os ydych chi’n deulu sy’n gweithio, er enghraifft, efallai y byddwch am ddefnyddio 2 sesiwn y dydd (mae hyn yn cyfateb i 5 awr) i gefnogi eich patrwm gwaith. Gallwch drafod hyn gyda’r darparwr gofal plant Dechrau’n Deg i weld a fyddai eu cofrestriad yn caniatáu hyn. Rhaid i’r lleoliad Dechrau’n Deg a’r teulu gytuno ar y trefniant hwn.
Mae canllawiau cenedlaethol pellach fel a ganlyn:

– Rhaid i amserau’r sesiynau gefnogi anghenion y teulu. Os mai dim ond sesiwn 2.5 awr sydd ei hangen y dydd, o dan delerau’r contract a chan gadw at ei Ddatganiad o Ddiben, rhaid i’r darparwr ddarparu ar gyfer y cais hwn.

– Yn aml, mae angen bod yn hyblyg o ran nifer y sesiynau a fynychir er mwyn darparu ar gyfer anghenion rhieni neu blant. Er enghraifft, os bydd rhiant yn penderfynu dod â’r plentyn am dair sesiwn yn unig, dylid darparu ar gyfer hyn. Fodd bynnag, dylai darparwyr annog rhieni i fanteisio ar eu hawl lawn lle bo hynny’n bosibl.

– Dylai’r sesiwn gofal plant Dechrau’n Deg ganolbwyntio ar gyfleoedd datblygu o ansawdd da ac felly ni ddylai gynnwys cwsg, cinio, na gofal cofleidiol.

– Rhaid i amserau’r sesiynau fod yn glir ac wedi’u nodi yn Natganiad o Ddiben y darparwr gofal plant. Er mwyn cael mynediad at ddwy sesiwn mewn un diwrnod, mae’n rhaid bod y lleoliad gofal plant wedi’i gofrestru ar gyfer gofal dydd llawn ac yn nodi’r sesiynau yn ei Ddatganiad o Ddiben, gan nodi’n glir y gallai plant aros am ddwy sesiwn y dydd. Ni all mwy na 2.5 awr gael eu darparu gan ddarparwyr sesiynau a all ond darparu gofal i’r un plentyn am lai na 4 awr mewn un diwrnod.

– Ystyrir bod unrhyw beth y tu allan i’r oriau a ariennir gan Dechrau’n Deg y cytunwyd arnynt, er enghraifft mwy na’r sesiwn 2.5/5 awr, yn oriau ychwanegol a rhaid cytuno arnynt yn y contract rhwng y rhiant a’r darparwr gan y byddai modd i’r darparwr godi amdanynt.

A alla i drosglwyddo oriau nas defnyddiwyd i'r wythnos neu'r gwyliau ysgol nesaf?
Na. Ni allwch ‘fancio’ oriau gofal plant, mewn geiriau eraill, trosglwyddo unrhyw oriau nas defnyddiwyd o un wythnos i un arall. Ac ni ellir defnyddio oriau nas defnyddiwyd yn ystod gwyliau ysgol. Mae gofal plant Dechrau’n Deg fel arfer yn ystod y tymor. Ni all nifer yr oriau a ariennir fod yn fwy na 12.5 mewn unrhyw wythnos yn ystod y tymor a gallwch ddewis faint o’r 12.5 awr i’w gymryd. Bydd unrhyw oriau na ddefnyddir mewn wythnos yn cael eu colli. Gallwch dalu eich hun am oriau ychwanegol o ofal plant, hynny yw dros y 12.5 awr.
A oes hyblygrwydd i newid yr oriau a archebwyd o fewn wythnos?
Oes, mae hyn yn bosibl a bwrw bod y darparwyr gofal plant yn gallu ymdopi â’r newid. Os ydych yn dymuno cynyddu’r oriau a ariennir, ni all hyn fod yn fwy na 12.5 awr o gyllid yr wythnos neu fwy na 5 awr yn unrhyw un diwrnod.
Pwy all ddarparu Gofal Plant Dechrau'n Deg?
Mae’r gofal plant a ariennir ond ar gael mewn lleoliadau gofal plant cymeradwy sydd wedi bodloni’r meini prawf ansawdd gofynnol ac sydd wedi’u contractio i ddarparu gofal plant Dechrau’n Deg ar ein rhan.
Ar hyn o bryd rydym yn gweithio i gynyddu nifer y lleoedd gofal plant Dechrau’n Deg sydd ar gael yn Sir Gaerfyrddin trwy gefnogi ein darparwyr gofal plant nad oes ganddynt gontract eto i gynnig Dechrau’n Deg i fodloni’r meini prawf ansawdd sy’n ofynnol gan y cynllun. Byddwn yn parhau i ddiweddaru’r rhestr o ddarparwyr gan fod mwy yn gallu cynnig Dechrau’n Deg.
Beth sy'n digwydd os nad yw fy narparwr gofal plant eisiau cynnig Gofal Plant Dechrau'n Deg?
Os ydych chi’n defnyddio, neu’n dymuno defnyddio, darparwr gofal plant nad oes ganddynt gontract gyda ni i ddarparu gofal plant Dechrau’n Deg, rhaid i chi benderfynu a ydych am barhau â’r darparwr hwnnw a pheidio â chael yr arian neu ddefnyddio darparwr arall sydd â chontract i ddarparu Dechrau’n Deg.
Faint o leoliadau gofal plant Dechrau'n Deg gall fy mhlentyn gael mynediad iddynt?
Un o nodau sylfaenol y rhaglen Dechrau’n Deg yw cynnig gofal plant cyson o safon i’r plentyn. Fodd bynnag, byddwn yn eich annog i beidio â defnyddio mwy nag un darparwr gofal plant ar gyfer gofal plant Dechrau’n Deg.
A all darparwyr gofal plant yn Sir Gaerfyrddin ddarparu gofal plant Dechrau'n Deg i blant o ardaloedd awdurdodau lleol eraill?
Gallant. Ond bydd angen i chi drafod y cyllid posibl gyda’r awdurdod lleol perthnasol. Ni all Dechrau’n Deg Sir Gaerfyrddin gyllido plant sy’n byw’r tu allan i’r sir.
A yw Gofal Plant Dechrau'n Deg ar gael yn ystod gŵyl banc?
Byddai hyn yn dibynnu ar y darparwr gofal plant unigol, a byddai’n rhaid i chi wirio gyda nhw’n uniongyrchol.

Darparwr Gofal Plant

Beth sydd ei angen arnom er mwyn ichi ddod yn ddarparwr gofal plant Dechrau'n Deg cymeradwy?
Mae’n rhaid bod darparwyr;

– Wedi cofrestru gydag AGC.
– Yn darparu tystiolaeth o adroddiad Ansawdd Gofal blynyddol (SASS)
– Wedi cofrestru gyda Sefydliad Ymbarél, er enghraifft Mudiad Meithrin, Blynyddoedd Cynnar Cymru.
– Yn cadarnhau statws eu busnes er enghraifft cwmni cyfyngedig, unig fasnachwr, elusen.
– Yn meddu ar lefelau priodol o yswiriant: Atebolrwydd Cyflogwyr – £10 miliwn, Atebolrwydd Cyhoeddus
– Yn cydymffurfio â deddfwriaeth a bod ganddynt yr holl bolisïau perthnasol ar waith (Iechyd a Diogelwch, Diogelu, Cydraddoldeb ac Amrywiaeth ac ati.)
– Yn gallu darparu gofal plant i blant mewn ardaloedd ehangu Dechrau’n Deg.

Beth sy'n cael ei gynnwys yn y gyfradd Gofal Plant Dechrau'n Deg?
Y gyfradd ddyddiol safonol yw £15.80 y plentyn fesul sesiwn 2.5 awr, ar gyfer darparwyr nad ydynt wedi’u lleoli o fewn adeilad Dechrau’n Deg yr Awdurdod Lleol. Mae hyn yn cynnwys yr holl nwyddau traul sydd eu hangen ar gyfer darparu’r gwasanaeth yn effeithiol, er enghraifft, byrbryd iach, adnoddau ar gyfer pob gweithgaredd dysgu, rhyddhau amser i arweinydd ar gyfer gwaith papur a rhyddhau amser ar gyfer hyfforddiant.

Nid yw’n cynnwys bwyd, cludiant a thaliadau ychwanegol eraill fel gweithgareddau a theithiau y telir amdanynt. Ni ddylai rhieni sy’n gymwys i gael darpariaeth a ariennir gan Dechrau’n Deg fod o dan anfantais oherwydd taliadau ychwanegol os nad ydynt yn dymuno ymgymryd â’r gweithgareddau ychwanegol hynny. Er enghraifft, gallai rhieni gasglu eu plant cyn cinio ar ddiwedd y sesiwn gofal plant Dechrau’n Deg a pheidio â thalu unrhyw gostau ychwanegol am ginio. I gael eglurhad pellach ynghylch y gyfradd, cysylltwch â Dechrau’n Deg drwy ffonio 01554 742447, neu drwy anfon neges e-bost at dechraundeg@sirgar.gov.uk.

Ydw i'n gallu codi ffioedd atodol ar riant am yr oriau hynny a ariennir gan Dechrau'n Deg?
Nac ydych. Nid ydych yn gallu codi ffioedd atodol bob awr, hyd yn oed os byddech fel arfer yn codi mwy na’r cyllid a dderbynnir ar gyfer sesiynau Gofal Plant Dechrau’n Deg.
A ddylwn i fod yn defnyddio'r un cyfraddau ar gyfer sesiynau mewn perthynas â rhieni Dechrau'n Deg a rhieni nad ydynt yn rhai Dechrau'n Deg?
Nid yw canllawiau Dechrau’n Deg yn nodi y dylai darparwyr godi’r un gyfradd ar rieni Dechrau’n Deg a rhieni nad ydynt yn rhai Dechrau’n Deg. Byddai unrhyw daliadau am leoedd gofal plant a ariennir yn breifat yn cael eu gosod yn ôl disgresiwn y darparwr gofal plant.
Ydw i'n gallu codi tâl am fwyd a gweithgareddau ychwanegol?
Fel arfer darperir byrbryd yn ystod y sesiwn 2.5 awr a fyddai’n cyd-fynd â’n cynllun cyn-ysgol iach a chynaliadwy. Nid ydych yn gallu codi tâl ychwanegol am fyrbrydau iach. Os yw rhiant sy’n gweithio yn dymuno defnyddio dwy sesiwn mewn un diwrnod i gyd-fynd â’u patrwm gweithio, rydym yn rhagweld y byddai amser ychwanegol ar gyfer cinio yn unol â’ch diwrnod arferol. Yn yr amgylchiadau hyn, gallwch ddod i drefniant unigol gyda’r rhiant/gofalwr.

Gallwch hefyd godi tâl am weithgareddau a thrafnidiaeth, fel teithiau oddi ar y safle sy’n arwain at gost ychwanegol neu gasglu/gollwng. Fodd bynnag, ni ddylai’r costau ychwanegol hyn beri anfantais i unrhyw riant nad yw’n gallu talu am y gwasanaeth ychwanegol hwn ac sydd angen y sesiwn Dechrau’n Deg yn unig
.

Beth yw diwrnodau i'r teulu?
Darperir o leiaf 15 sesiwn (3 wythnos) o ofal plant hyblyg a/neu chwarae ar gyfer y plentyn neu’r teulu yn ystod gwyliau’r ysgol.

Gall hyn fod yn ddiwrnod i’r teulu/taith yn ystod y gwyliau neu ar benwythnosau. Os yw’r cyfnod amser yn fwy na 4 awr (gan gynnwys amser teithio), gellir hawlio sesiwn ddwbl. Bydd hyn yn rhoi hyblygrwydd i’r darparwr gymryd rhan mewn digwyddiadau cymunedol pan fo hynny’n briodol
.

Ydw i'n gallu gofyn i rieni dalu ymlaen llaw am eu horiau Dechrau'n Deg, yna eu had-dalu pan ddaw'r taliad drwodd gan yr awdurdod lleol?
Nac ydych. Nod y lleoliad gofal plant Dechrau’n Deg yw cefnogi teuluoedd, yn enwedig teuluoedd incwm is na fyddai’n gallu fforddio costau gofal plant fel arall. Gallai codi tâl ar rieni cyn y gwasanaethau a dderbynnir eithrio’r rhieni hynny y mae angen y cymorth arnynt fwyaf oherwydd mae’n bosibl na fyddant yn gallu ei fforddio.
A fydd cyllid gofal plant Dechrau'n Deg yn talu am gostau gofal plant anuniongyrchol, er enghraifft cadw gwyliau neu ffi weinyddol neu ffi gadw ymlaen llaw?
Na fydd. Mae’r cyllid gofal plant Dechrau’n Deg yn ymwneud yn unig â darpariaeth uniongyrchol o ofal plant. Wrth gyflwyno’ch cais i fynegi eich diddordeb i ddarparu gofal plant Dechrau’n Deg, rydych yn gwneud hynny ar yr amod mai dim ond yn ystod y tymor y mae’r lle fel arfer a dylech addasu eich polisïau a’ch taliadau yn unol â hynny.
A yw darparwyr yn dal i gael eu talu os yw'r plentyn yn sâl?
Nac ydyn. Bydd cyllid gofal plant Dechrau’n Deg yn talu am gostau’r oriau a archebwyd, hyd yn oed pan nad yw’r plentyn yn bresennol. Fodd bynnag, mae presenoldeb yn cael ei fonitro, a bydd y teulu’n cael ei gefnogi i fod yn bresennol. Dylech annog presenoldeb da a thrafod â’r rhiant os oes patrymau o ran peidio â bod yn bresennol er mwyn sicrhau bod y sesiynau’n cyd-fynd ag anghenion y teulu. Os yw’r teulu’n agored i wasanaethau plant, dylech gysylltu â’r gweithiwr cymdeithasol. Disgwylir i chi ddweud wrthym os oes patrymau cyson o ran diffyg presenoldeb heb esboniad dros gyfnod o ddau fis.
Ydy darparwyr gofal plant yn Sir Gaerfyrddin yn gallu darparu gofal plant Dechrau'n Deg i blant o ardaloedd awdurdodau lleol eraill?
Gallan, ond bydd angen i chi drafod y cyllid posibl gyda’r awdurdod lleol perthnasol. Ni all Sir Gaerfyrddin gyllido plant sy’n byw’r tu allan i’r sir.
Beth os yw'r plentyn yn byw hanner yr wythnos gyda'i fam/mam yng Ngheredigion a hanner yr wythnos gyda'i dad/thad yn Sir Gaerfyrddin?
Bydd y cyllid yn dibynnu ar ble mae’r plentyn yn byw y rhan fwyaf o’r wythnos. Er enghraifft, os yw’r plentyn yn byw gyda’i fam/mam yng Ngheredigion o ddydd Llun tan ddydd Iau a gyda’i dad/thad yn Sir Gaerfyrddin o ddydd Gwener tan ddydd Sul, bydd angen i’r fam fod yr arweinydd enwebedig. Mae’n rhaid gwneud y cais i Geredigion gan fod y rhan fwyaf o’r cyfnod preswyl yma a dylid rhoi gwybod i’r ddau awdurdod lleol.
Ni ellir hawlio cyllid gan y ddau awdurdod lleol ar gyfer yr un plentyn.
Ydy rhiant yn gallu dewis unrhyw leoliad gofal plant Dechrau'n Deg cymeradwy?
Ydy. Os yw’r plentyn wedi’i gymeradwyo ar gyfer gofal plant Dechrau’n Deg, byddwn yn ariannu’r lleoliad yn unrhyw leoliad gofal plant Dechrau’n Deg cymeradwy. Nid oes rhaid mai’r darparwr gofal plant agosaf i ble rydych yn byw ydyw.
Rydym yn feithrinfa ddydd amser llawn, ond mae'r cyllid Dechrau'n Deg yn ystod y tymor. Ydyn ni'n gallu mynnu bod rhieni'n mynychu trwy gydol y flwyddyn, ac yna netio'r cyllid yn erbyn ffioedd y rhiant?
Os byddwch yn cofrestru ar gyfer y contract i ddarparu Dechrau’n Deg, bydd angen i chi edrych ar sut y gallwch gynnig darpariaeth ran-amser yn ystod y tymor yn unig yn eich model busnes. Efallai y byddai’n werth siarad â’ch Swyddog Gofal Plant i gael trafodaethau pellach; Fodd bynnag, ni allwch ofyn i rieni gofrestru am fwy o amser nag oriau Dechrau’n Deg.
Mae’r un egwyddor yn berthnasol os yw rhieni’n dymuno mynychu ar gyfer y sesiwn 2.5 awr yn unig ac nad ydynt yn dymuno archebu lle ar gyfer diwrnod llawn a thalu am oriau ychwanegol. Bydd angen i chi ystyried eich model busnes a sut y byddwch yn gallu cynnig y ddarpariaeth sesiynol
.
Beth am hyfforddiant staff a diwrnodau Hyfforddiant mewn Swydd? Sut y bydd hyn yn cael ei drefnu?
Mae mynediad i lawer o hyfforddiant o dan raglen Dechrau’n Deg. Bydd amrywiaeth o gymorth ar gael a bydd angen i chi edrych ar eich lleoliad ac anghenion y staff, gan weithio gyda’ch tîm ymgynghorol gofal plant i nodi anghenion o ran hyfforddiant ac amseroedd sy’n addas i ryddhau staff.
Beth sy'n digwydd os ydym yn penderfynu nad ydym am gyflawni'r contract Dechrau'n Deg?
Byddwch yn gallu parhau gyda rhieni sy’n talu ffioedd, ond ni fyddwch yn gallu cyflwyno sesiynau wedi’u hariannu ar gyfer Dechrau’n Deg.
Ydyn ni'n llai tebygol o gael unrhyw grantiau os na fyddwn yn cofrestru ar gyfer Dechrau'n Deg?
Na, nid o reidrwydd. Fodd bynnag, pan fydd mwy o geisiadau am grantiau nag y gellir darparu ar eu cyfer, rhoddir blaenoriaeth i’r ardaloedd lle mae angen ehangu’r ddarpariaeth (lleoedd neu ddarpariaeth a ariennir). Bydd hyn yn glir yn nhelerau ac amodau’r grant ynghyd â’r blaenoriaethau a nodwyd ynddynt.
Faint o amser mae'n ei gymryd i gael eich derbyn fel darparwr Dechrau'n Deg?
Bydd hyn yn dibynnu ar nifer y darparwyr sy’n gwneud cais ar yr un pryd, yn ogystal â pha mor gyflym y gall y darparwr basio’r gwiriadau cyn dosbarthu. Fodd bynnag, mae tîm y blynyddoedd cynnar i gyd yn gweithio gyda’i gilydd i gymeradwyo lleoliadau cyn gynted â phosibl.
Bydd y cyfle i gyflwyno mynegiannau o ddiddordeb yn parhau ar agor fel y gall lleoliadau ymuno â Dechrau’n Deg os ydynt yn dymuno gwneud hynny.
– Bydd angen i leoliadau wneud cais i gael eu cymeradwyo.
– Bydd yr Ymgynghorydd yn cefnogi’r lleoliad i ddatblygu Cynllun Gweithredu Lleoliad.
– Unwaith y bydd y camau allweddol sydd eu hangen yn cael eu cyflawni, bydd y lleoliad yn cael ei gymeradwyo i ddarparu lleoedd Dechrau’n Deg.
– Bydd y lleoliad yn parhau i weithio ar gamau eraill yn eu cynllun gweithredu i wella ansawdd eu darpariaeth yn barhaus. Bydd yn gallu darparu lleoedd Dechrau’n Deg wrth wneud hyn.
– Bydd lleoliadau’n cael llawer o gymorth drwy gydol y broses a chymorth parhaus unwaith y byddant yn darparu lleoedd Dechrau’n Deg.
A oes disgwyl i ddarparwyr gofal plant gynnig sesiynau ymgartrefu ar gyfer plant newydd sy'n dechrau, ac os oes gan ddarparwr bryderon am blentyn yn ystod y sesiynau hynny, ble mae modd iddynt gael cyngor?
Byddem yn annog sesiynau ymgartrefu. Mae’n bosibl bod llawer o blant yn cael gofal plant am y tro cyntaf ac felly mae’n bwysig egluro i’r rhieni y gallai fod angen sesiynau byrrach arnynt i ddechrau ac yna gellid cynyddu hyd y sesiynau dros yr wythnos gyntaf.
Os oes gennych bryderon am blentyn, dylech drafod y pryderon â’r rhiant a gofyn am gyngor gan y tîm ymgynghorol – gofal plant.
Os yw plentyn yn gymwys i gael gofal plant Dechrau'n Deg ond ei fod/bod eisoes mewn lleoliad gofal plant nad yw'n cynnig Dechrau'n Deg, ydy'r plentyn yn gallu newid lleoliad
Ydy, os yw’r rhiant yn dymuno elwa ar y cyllid, efallai y bydd yn penderfynu symud i leoliad sydd wedi’i gontractio i ddarparu Dechrau’n Deg. Byddai’n ofynnol iddo/iddi roi rhybudd i’r lleoliad presennol o dan y contract presennol, cyn gwneud cynlluniau i symud. Fodd bynnag, dewis y rhiant yw hyn, ac efallai y bydd yn penderfynu aros lle mae a mynd heb y cyllid.
Sut mae’r taliadau'n gweithio?
Rydym yn gweithredu model pris sefydlog;
£14.80 y sesiwn i ddarparwyr sydd wedi’u lleoli mewn lleoliadau Dechrau’n Deg yr awdurdod lleol a £15.80 y sesiwn i ddarparwyr sydd wedi’u lleoli yn eu lleoliadau eu hunain.
– Bydd darparwyr yn cael eu talu’n fisol mewn ôl-ddyledion.
– Telir fesul sesiwn, fesul plentyn am nifer y sesiynau a gofrestrwyd
.
Sut mae'r broses hawliadau'n gweithio?
– Mae gan bob darparwr ei ‘sianel’ breifat a diogel ei hun ar Teams (gellir darparu cymorth)
– Mae ffurflen hawlio fisol yn cael ei lanlwytho gan Dechrau’n Deg i sianel y darparwr.
– Mae’r darparwr yn nodi’r plant sy’n mynychu ar y ffurflen hawlio “byw” (gan nodi manylion y plant a’u presenoldeb) erbyn y 3ydd o’r mis canlynol.
– Mae Dechrau’n Deg gwirio’r ffurflen am gywirdeb, symiau talu cywir ac yn sicrhau y byddai’n bodloni gofynion archwilio
– Yna caiff y ffurflen ei throsglwyddo i’r gwasanaeth cyllid i’w thalu.
Beth os yw plentyn wedi'i gofrestru am lai na 5 diwrnod yr wythnos, sut y gall ddefnyddio ei hawl yn llawn?
O dan yr amgylchiadau hyn, caiff pob achos ei ystyried yn unigol,
dylai’r sesiynau fod ar gyfer 2.5 awr y dydd, 5 diwrnod yr wythnos, fel bod y plentyn yn cael y budd mwyaf o’r rhaglen.
Fodd bynnag, mewn rhai amgylchiadau, efallai y bydd rhieni am ddefnyddio 2 sesiwn y dydd (mae hyn yn cyfateb i 5 awr) i gefnogi eu hanghenion. Os bydd y sefyllfa hon yn codi, cysylltwch â’r tîm Dechrau’n Deg i gymeradwyo’r cais hwn.

Peidiwch â chymryd camau pellach heb gael cymeradwyaeth ymlaen llaw.

Beth os yw plentyn yn byw yn un o ardaloedd gwreiddiol Dechrau'n Deg a'i fod/bod yn dymuno mynychu eich lleoliad?
Mae’r ardaloedd Dechrau’n Deg gwreiddiol yn cynnwys gwasanaethau o bedwar llinyn craidd y rhaglen. Mae’r elfen gofal plant wedi cael ei thendro, felly dyrennir lleoedd i ddarparwyr sydd wedi’u contractio ar y fframwaith.

Mae’r contract a gyhoeddwyd ar ôl i chi gyflwyno mynegiant o ddiddordeb ar gyfer darparu gofal plant i deuluoedd sy’n byw yn ardaloedd ehangu cam 2 yn unig.

Os oes gennych ymholiadau o hyd sydd heb eu hateb uchod. Cysylltwch a Dechrau’n Deg Sir Gaerfyrddin ar 01554 742447

Hapus iawn gyda pha mor gyflym yr anfonwyd y manylion allan.
Posted by Rhiant, o Sir Gaerfyrddin
Call Now Button