Dechrau’n deg: Gwasanaeth Gofal Plant


Os oes gennych blentyn rhwng 2 a 3 oed ac yn byw mewn ardal Dechrau’n Deg, mae gan y plentyn fynediad at ofal plant o ansawdd wedi’i ariannu. Mae’r gofal plant hwn ar gael am 2 awr a hanner y dydd am hyd at 39 wythnos. Mae’n dechrau’r tymor ar ôl ail ben-blwydd y plentyn hyd at y tymor mae’n troi’n dair.







Darperir gofal plant o ystod o gyfleusterau gofal plant, gan gynnwys Lleoliadau Awdurdod Lleol, Meithrinfeydd Dydd Preifat, Canolfannau Teulu, Grwpiau Chwarae, Chylchoedd Meithrin a Gwarchodwyr plant. Ffocws y lle gofal plant wedi’i ariannu yw’r plentyn, ac yn enwedig sicrhau bod pob plentyn yn cael cyfleoedd i ddatblygu ei iaith a’i sgiliau cymdeithasol ac yn datblygu’n emosiynol ac yn gorfforol er mwyn bod yn barod i ddechrau’r ysgol, mewn lle gofal plant diogel. Mae pob lleoliad yn olrhain ac yn asesu datblygiad yr holl blant i sicrhau eu bod yn cyrraedd eu potensial llawn.
Ydych chi mewn Ardal Dechreu’n Deg?
Mae Dechrau’n Deg yn gweithredu ar sail ddaearyddol gan ddefnyddio côdau post. Defnyddiwch y gwiriwr côd post i weld a yw eich côd post yn gymwys ar gyfer ein gwasanaethau. Os ydych yn gymwys, defnyddiwch yswyddogaeth chwilio isod i weld pa leoliadau yn eich ardal chi sy’n cynnig gofal plant Dechrau’n Deg
A ydych yn gymwys ar gyfer Dechrau'n Deg?
Unrhyw Gwestiynau?
Mae gyda ni adran Cwestiynau Cyffredin a fydd, gobeithio, yn ateb unrhyw gwestiynau sydd gennych:
Cyfeiriad
Dechrau’n Deg
Cyn Ysgol Babanod y Morfa
Heol Newydd
Morfa
Llanelli
SA15 2DQ
Ffôn
01554 742447
E-bost
Dechraundeg@sirgar.gov.uk