Bydwreigiaeth


Mae ein Gwasanaeth Bydwreigiaeth Dechrau’n Deg yn cynnig y canlynol*

- Paratoi ar gyfer esgor a gofalu am y babi, gyda chymorth un-i-un yn y cartref ac mewn grŵp.
- Canolbwyntio ar iechyd emosiynol, lleihau straen a hyrwyddo ymlyniad/bondio cynnar.
- Mynychu grwpiau lle gallant gwrdd a gwneud ffrindiau â mamau eraill.
- Annog ymgysylltiad parhaus mewn cyrsiau a grwpiau Dechrau’n Deg eraill.
- Ein nod yw cynyddu’r nifer sy’n bwydo ar y fron yn yr ardal Dechrau’n Deg a thrafod y manteision drwy Hybu Iechyd.
- Rydyn ni’n darparu arweiniad, mentora a chymorth drwy gydol y beichiogrwydd gan hybu hunan-barch a chynyddu hyder.
- Rydyn ni hefyd yn trafod hybu iechyd drwy ein sesiynau, gan geisio lleihau ysmygu, cynyddu ymarfer corff a bwyta’n iach yn ystod beichiogrwydd.
- Rydyn ni’n cynnig cefnogaeth emosiynol yn y cyfnod ar ôl geni – cyfnod lle mae’r rhan fwyaf o famau’n teimlo bod cael babi newydd yn gallu bod yn heriol.

*Gwasanaeth cyfeirio yn unig yw hwn. I gael mynediad ato bydd angen atgyfeiriad arnon ni gan eich Bydwraig neu Ymwelydd Iechyd.
Ap Bwyd Doeth yn ystod Beichiogrwydd
Ydych chi’n feichiog? Ydych chi eisiau gwybod mwy am ba fwydydd sydd orau i chi a’ch babi yn ystod beichiogrwydd ac wedi hynny? Ydych chi’n ansicr ble i ddod o hyd i gyngor a chymorth am fwyta’n dda a chadw’n heini yn ystod beichiogrwydd y gallwch chi wir ymddiried ynddo? Hoffech chi gael mynediad cyflym i’r wybodaeth hon – y cyfan mewn un lle ac ar gael yn hawdd? Mae’r ap newydd hwn, sydd AM DDIM ac a ddatblygwyd gan weithwyr proffesiynol GIG Cymru, wedi’i gynllunio i ddarparu hyn i gyd, a mwy. Mae’n dod â chyngor ynghylch maeth, gweithgarwch corfforol a phwysau iach ynghyd i’ch cefnogi drwy gydol eich taith feichiogrwydd.
Cyfeiriad
Dechrau’n Deg
Cyn Ysgol Babanod y Morfa
Heol Newydd
Morfa
Llanelli
SA15 2DQ
Ffôn
01554 742447
E-bost
Dechraundeg@sirgar.gov.uk
