Gwasanaeth Iaith Gynnar

Flying Start Carmarthenshire, Carmarthenshire County Council, NHS, Welsh Government

Mae dysgu siarad yn rhan hanfodol o ddatblygiad a thwf cynnar babanod a phlant.

Mae siarad mor bwysig.

Bydd  siarad â’ch babi o’r enedigaeth a chynnig ystod eang o weithgareddau ysgogol iddo/iddi, yn datblygu ei sgiliau siarad. Mae’n ei helpu i ddysgu, i lwyddo ac i fod yn barod ar gyfer yr ysgol.

Camau Clebran

Baby playing at baby babble
SALT photo

Iaith a Chwarae

Mae Dechrau’n Deg yn cynnig sesiynau Iaith a Chwarae sy’n darparu amrywiaeth o weithgareddau chwarae er mwyn datblygu iaith, sgiliau cyfathrebu a chymdeithasol mewn ffordd hwyliog a rhyngweithiol ar gyfer rhieni a’u phlant. Mae’r sesiynau’n cynnwys Amser Stori, Canu, Chwarae Anniben a Gweithgareddau Crefftau. Mae Dechrau’n Deg yn darparu sesiynau Iaith a Chwarae i fabanod rhwng 0 a 15 mis oed ac ar gyfer plant bach rhwng 16 mis a 3 oed.*

Dod i wybod Mwy…

*Dim ond ar gyfer teuluoedd o fewn Ardaloedd Dechrau’n Deg

Cefnogaeth Ychwanegol.

Mae Therapi Iaith a Lleferydd ar gael ar gyfer rhai teuluoedd Dechrau’n Deg. Gellir cynnig pecynnau rhyngweithio rhwng Oedolyn a Phlentyn am bedair wythnos. Rydyn ni’n gweithio gyda rhieni i addasu eu sgiliau rhyngweithio i gefnogi eu plentyn sy’n dysgu siarad. Ynghyd â hyn, gellir darparu rhaglenni iaith a lleferydd wedi’u targedu am chwe wythnos yn y cartref neu’r feithrinfa a darparu cyngor a gweithgareddau i rieni allu parhau i ymarfer gyda’u plant.

*Mae cymorth Lleferydd ac Iaith arbenigol ar gael dim ond os yw gweithiwr iechyd proffesiynol wedi nodi bod ei angen ar eich plentyn.

SALT photo

Beth yw gwaith y Tîm Lleferydd ac Iaith?

Mae’r Gwasanaeth Therapi Lleferydd ac Iaith yn cynnig cymorth i rieni er mwyn annog ysgogiad cynnar, hyrwyddo lleferydd, iaith a chyfathrebu ymysg babanod newydd-anedig a phlant bach. Caiff negeseuon allweddol ‘Dysgu Siarad’ eu hyrwyddo i holl deuluoedd Dechrau’n Deg.

Cyfeiriad

Dechrau’n Deg
Cyn Ysgol Babanod y Morfa
Heol Newydd
Morfa
Llanelli
SA15 2DQ

Ffôn

01554 742447

E-bost

Dechraundeg@sirgar.gov.uk

Siaradais â menyw gyfeillgar a chymwynasgar iawn pan ffoniais.
Posted by Rhiant, o Sir Gaerfyrddin
Call Now Button