Gwasanaeth Rhianta

Flying Start Carmarthenshire, Carmarthenshire County Council, NHS, Welsh Government

Bod yn rhiant fydd un o’r rolau fydd yn rhoi’r boddhad mwyaf ichi ac weithiau, un o’r rolau mwyaf blinedig a heriol hefyd!

Grwpiau i Rieni a Gofalwyr

Arhoswch un cam ar y blaen i ddatblygiad eich plentyn trwy fynychu amrywiaeth o weithdai. Fel arfer cynhelir ein gweithdai mewn canolfannau teulu neu blant lleol. Maen nhw’n hwyl ac yn anffurfiol, ac yn bwysicach na hynny maen nhw i gyd am ddim! Rydyn ni’n gweithio’n agos gydag asiantaethau partner i ddarparu gweithdai ar gyfer pobl ifanc 0 – 18 oed.

Getting to know your baby

Cyfleoedd anhygoel i…

  • Cwrdd â rhieni eraill a gwneud ffrindiau newydd.
  • Rhannu awgrymiadau a syniadau ag eraill i roi cynnig arnyn nhw gartref.
  • Dysgu mwy am ddatblygiad plant a pham mae plant yn gwneud y pethau maen nhw’n eu gwneud.
  • Adeliadu ar eich hyder trwy ein rhaglen “steps“.
  • Ennill cymhwyster Agored Cymru.
  • Cyflwyno eich plentyn i gyfleusterau creche am ddim.
  • Mwynhau lluniaeth am ddim.

Rhianta. Rhowch amser iddo.

Oneplusone

Rydyn ni’n cynnig Gweithdai i gefnogi’r canlynol:

  • Dadlau’n well – i unrhyw un sydd am ddysgu sut i ymdopi’n well â straen a delio â dadleuon mewn ffordd iach.
  • Fi, chi a babi  – i helpu rhieni newydd a darpar rieni i lywio’r newidiadau sy’n digwydd yn eu perthynas pan fydd babi’n cyrraedd.
  • Gwneud pethau’n iawn i blant – i helpu rhieni sydd wedi gwahanu neu sy’n gwahanu i ddysgu rheoli gwrthdaro a lleihau’r effaith y mae’n ei chael ar eu plant.

Dewch i wybod mwy yma…

Cyfeiriad

Dechrau’n Deg
Cyn Ysgol Babanod y Morfa
Heol Newydd
Morfa
Llanelli
SA15 2DQ

Ffôn

01554 742447

E-bost

Dechraundeg@sirgar.gov.uk

Siaradais â menyw gyfeillgar a chymwynasgar iawn pan ffoniais.
Posted by Rhiant, o Sir Gaerfyrddin
Call Now Button