Tîm Gofal Cymdeithasol
Mae ein Tîm Gofal Cymdeithasol Dechrau’n Deg yn cynnwys Gweithwyr Cymdeithasol, Gweithwyr Prosiect Cam-drin Domestig a Swyddogion Cymorth. Gallant ddarparu amrywiaeth eang o becynnau cymorth i deuluoedd ledled ardaloedd Dechrau’n Deg Sir Gaerfyrddin.
*Mae’r gwasaneth hwn ddim ond i gael i rhai codau post. Defnyddiwch y gwiriwr cod post i weld a allwch chi gael mynediad at y gwasanaeth hwn.
Gweithwyr Cymdeithasol Dechrau’n Deg
Bydd y Gweithiwr Cymdeithasol Dechrau’n Deg yn helpu teuluoedd i adeiladu ar eu cryfderau ac yn cyfrannu at sicrhau’r canlyniadau gorau posibl ar gyfer teuluoedd a phlant. Gallant gynnig cymorth, gwybodaeth a chyngor i deuluoedd a allai fod yn profi anawsterau o ran perthnasoedd, rhianta, iechyd meddwl, tai a rheoli materion sy’n ymwneud â dyledion. Mae Gweithwyr Cymdeithasol Dechrau’n Deg yn gweithio mewn partneriaeth â theuluoedd ac yn gallu helpu drwy ddatblygu hyder ac annibyniaeth yn ogystal â chyfeirio pobl at wasanaethau cymorth eraill yn Sir Gaerfyrddin.
Ydych chi’n bryderus?
Os oes gennych unrhyw bryderon amdanoch chi’ch hun new rywun arall, dyma rhai dolenni defnyddiol:
Gweithwyr Prosiect Cam-drin Domestig Dechrau’n Deg
Mae Gweithwyr Prosiect Cam-drin Domestig Dechrau’n Deg yn cefnogi teuluoedd sy’n dioddef cam-drin domestig drwy ddarparu’r Rhaglen Rhyddid; Rhaglen Pecyn Cymorth Adfer; Rhaglen Diogelwch, Ymddiriedaeth a Pharch ar sail un-i-un ac mewn grŵp yn ogystal â chymorth diogelwch un-i-un. Mae’r Gweithwyr Prosiect Cam-drin Domestig yn rhoi cyfleoedd i deuluoedd wella eu hymwybyddiaeth ynghylch cam-drin domestig mewn ymgais i adnabod arwyddion ymddygiad bygythiol a pherthnasoedd gwael. Y nod yw annog perthnasoedd iach.
Swyddogion Cymorth Dechrau’n Deg
Mae Swyddogion Cymorth Dechrau’n Deg yn gweithio mewn partneriaeth â rhieni ac yn agos ag Ymwelwyr Iechyd Dechrau’n Deg ac aelodau eraill o wasanaeth Dechrau’n Deg. Maent yn darparu ystod o gymorth un-i-un yn y cartref ar gyfer teuluoedd er mwyn helpu rhieni a gofalwyr i adeiladu ar eu cryfderau ac ymdopi â heriau rhianta a bywyd bob dydd.
Gall y cymorth hwn yn y cartref gynnwys rhai o’r canlynol:
- Cymorth Bwydo ar y Fron
- Diddyfnu
- Tylino Babi – i hyrwyddo bondio ac ymlyniad
- Strategaethau rhianta cadarnhaol i gynorthwyo datblygiad y plentyn
- Sgiliau Ffordd o Fyw – trefniadau arferol yn y cartref
- Hyrwyddo datblygiad iaith cynnar, lleferydd a chyfathrebu
- Cefnogi teuluoedd i gael mynediad i adnoddau yn y gymuned er enghraifft Canolfannau Teulu
- Cymorth gyda materion cysgu, hyfforddiant poti a gwybodaeth am fwyta’n iach a maeth cynnar
Cyfeiriad
Dechrau’n Deg
Cyn Ysgol Babanod y Morfa
Heol Newydd
Morfa
Llanelli
SA15 2DQ
Ffôn
01554 742447
E-bost
Dechraundeg@sirgar.gov.uk