Gwasanaeth Ymwelwyr Iechyd

Flying Start Carmarthenshire, Carmarthenshire County Council, NHS, Welsh Government

Mae ymwelwyr Iechyd yn gweithio gyda theuluoedd i hybu iechyd da ac atal salwch.

Ymwelwyr Iechyd Dechrau’n Deg

Nyrsys Iechyd y Cyhoedd yw Ymwelwyr Iechyd.  Mae Ymwelwyr Iechyd Dechrau’n Deg yn cynnig gwasanaeth gwell, yn y cartref sydd wedi’i deilwra i anghenion unigol y teulu. Caiff teuluoedd yn rhai ardal Dechrau’n Deg Ymwelydd Iechyd penodol a fydd yn cefnogi’r teulu o’r cyfnod cyn-geni tan fod plant y teulu hwnnw yn 5 oed. Mae Rhaglen Plant Iach Cymru yn nodi cysylltiadau allweddol ar gyfer teuluoedd Dechrau’n Deg.*

*Dim ond i ddewis codau post y mae’r gwasanaeth hwn ar gael. Defnyddiwch y gwiriwr cod post i weld a allwch chi cael y mynediad hwn.

Demonstrating breastfeeding with mum

Trosolwg o broses ymweliadau iechyd Dechrau’n Deg.

  • Cyswllt cyn-geni o 24 wythnos y beichiogrwydd.
  • Ymweliad rhwng 10 a 14 diwrnod ar ôl i’ch babi gael ei eni.
  • Ymweliadau cartref wythnosol hyd nes bod eich babi yn 6 wythnos oed.
  • Brechiadau sylfaenol yn eich meddygfa pan fydd eich babi yn 8, 12 a 16 wythnos oed.
  • Yn ogystal, cynigir ymweliad cartref pan fydd eich babi rhwng 8 a 16 wythnos.
  • Ymweliadau cartref pan fydd eich babi yn 6 mis oed a rhwng 9 a 12 mis oed.
  • Brechiadau wedi eu trefnu pan fydd eich plentyn yn 12 mis oed.
  • Mae pob plentyn yng Nghymru yn cael asesiad datblygiadol yn 15 mis oed.
  • Cynhelir asesiad lleferydd ac iaith pan fydd eich plentyn rhwng 18 a 24 mis oed. Cynigir lle gofal plant am ddim i blant Dechrau’n Deg o’r tymor ysgol cyntaf ar ôl eu hail ben-blwydd.
  • Mae pob plentyn yng Nghymru yn cael asesiad datblygiadol yn 27 mis oed.
  • Brechiadau cyn-ysgol yn 3 blwydd a 4 mis oed.
  • Pan fydd eich plentyn yn 5 mlwydd oed, bydd ei gofnod iechyd yn cael ei drosglwyddo i nyrs yr ysgol.

Yn ystod yr ymweliadau hyn bydd Ymwelwyr Iechyd Dechrau’n Deg yn asesu twf a datblygiad babanod ac yn rhoi cyngor ynghylch materion gwella iechyd allweddol fel brechiadau, bwydo babanod, diddyfnu, gofal iechyd y geg a diogelwch yn y cartref. Maent hefyd yn cynnal cymorthfeydd galw heibio cyson y gallwch eu mynychu rhwng ymweliadau cartref.

Caiff Ymwelwyr Iechyd Dechrau’n Deg eu cefnogi gan y tîm Dechrau’n Deg ehangach sy’n cynnwys Therapyddion Lleferydd, Deietegydd, Bydwraig, Gofal Cymdeithasol ac ystod o Swyddogion Cymorth, sy’n cynnig cymorth wedi’i dargedu yn y cartref. Gyda’i gilydd, maent yn ceisio cefnogi teuluoedd er mwyn rhoi’r dechrau gorau posibl mewn bywyd i’w plant.

Cyfeiriad

Dechrau’n Deg
Cyn Ysgol Babanod y Morfa
Heol Newydd
Morfa
Llanelli
SA15 2DQ

Ffôn

01554 742447

E-bost

Dechraundeg@sirgar.gov.uk

Doeddwn i ond eisiau anfon nodyn o ddiolch ichi am eich holl waith ar wefan Gwasanaeth Gwybodaeth I Deuluoedd Sir Gaerfyrddin. Rwy’n gweithio ar gasglu ychydig o wybodaeth ar gyfer menter leol i addysgu plant a phobl ifanc ynghylch canlyniadau cyffuriau ac alcohol. Rwy’n gweithio ar baratoi pamffled ac rwyf wedi dysgu llawer o’ch tudalen. Sylwais fod gennych rai adnoddau gwych iawn. Da Iawn!
Posted by Rhiant, o Sir Gaerfyrddin
Call Now Button