Darpariaeth Gofal Plant


Mae darparu gofal plant rhan-amser o safon uchel ar gyfer plant rhwng 2 a 3 oed yn hanfodol i Raglen Dechrau’n Deg.

Gofal Plant o Safon Uchel
Mae gofal plant o safon uchel yn helpu plant i ennill sgiliau megis cymdeithasu a’r gallu i chwarae a chanolbwyntio. Mae’r rhain yn hanfodol, nid yn unig ar gyfer gallu’r plentyn i ddysgu, ond hefyd ar gyfer cyfranogi’n effeithiol mewn grwpiau. Nod gofal plant Dechrau’n Deg yw bod o’r safpn uchaf. Dylai ymdrechu i fod yn feincnod ar gyfer gofal plant o safon ledled Cymru.


Profiadau Ymgysylltiol
Mae galluogi oedolion, amgylcheddau effeithiol a phrofiadau difyr yn allweddol i ddarparu gofal plant o safon. Mae hyn yn darparu’r sylfeini ar gyfer adeiladu datblygiad yn y dyfodol.
Canllawiau ar gyfer Gofal Plant o Ansawdd da Llywodraeth Cymru.
Mae Plentyn Iach yn Blentyn Hapus.
- Ar gyfer datblygiad iach plant, mae’n bwysig creu amgylchedd sy’n hyrwyddo bod yn iach. Anogir agweddau ac ymddygiad iach.
- Mae pob lleoliad yn darparu amgylchedd diogel, gofalgar ac effeithiol sy’n cefnogi plant i deimlo’n hapus a theimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi. Mae’r ymarferwyr yn sicrhau bod plant yn dysgu ac yn datblygu trwy brofiadau uniongyrchol a chwarae.
- Anogir pob lleoliad gofal plant i weithio tuag at Feini Prawf Gowbr Cenedlaethol y Cynllun Cyn-Ysgol Iach a Chynaliadwy.
- Anogir pob lleoliad gofal plant i weithio i’r safonau uchaf a chynnig bwyd a diod i’r plant yn eu gofal gan ddilyn Canllawiau Arfer Gorau Bwyd a Maeth ar gyfer Lleoliadau Gofal Plant (Llywodraeth Cymru, 2018).


Bydd staff Dechrau’n Deg yn darparu cyfleoedd chwarae a dysgu ymgysylltiol o safon trwy ystod o weithgareddau.
Bydd pob aelod o staff yn meddu ar y cymwysterau Gofal Plant priodol yn unol â’r fframwaith cymwysterau a nodir gan Gofal Cymdeithasol Cymru.
Mae pob lleoliad gofal plant Dechrau’n Deg yn ymdrechu i hyrwyddo’r nodau canlynol:
- Darparu amgylchedd diogel, ysgogol ac effeithiol lle gall plant ddysgu a datblygu.
- Cynnig amrywiaeth eang o weithgareddau dan do ac awyr agored.
- Darparu profiadau chwarae yn seiliedig ar anghenion datblygiadol y plentyn.
- Darparu gwasanaeth sy’n cefnogi ac yn diogelu plant.
- Cefnogi plant sydd angen cymorth ychwanegol.
- Creu amgylchedd lle mae pob plentyn unigol yn teimlo’n werthfawr ac yn teimlo bod rhywun yn gwrando gan ystyried ei ddiddordebau a’i anghenion
- Gweithio mewn partneriaeth â rhieni/gofalwyr mewn ffordd agored a gonest.
Mae ein tîm cynghori ar ofal plant yn cefnogi lleoliadau i gyflawni gofal plant o ansawdd uchel.
Cyfeiriad
Dechrau’n Deg
Cyn Ysgol Babanod y Morfa
Heol Newydd
Morfa
Llanelli
SA15 2DQ
Ffôn
01554 742447
E-bost
Dechraundeg@sirgar.gov.uk