Iechyd y Geg

Flying Start Carmarthenshire, Carmarthenshire County Council, NHS, Welsh Government
Brushing Teeth

Pydredd dannedd yw afiechyd y geg mwyaf cyffredin sy’n effeithio ar blant yn y DU.

Orange man brushing

Pam mae iechyd y geg yn bwysig.

Mae pydredd dannedd effeithio ar y gallu i gysgu, i fwyta, i gymdeithasu ac i siarad hyd yn oed. Yn ffodus, drwy sicrhau gofal y geg da, mae modd atal pydredd dannedd bron bob amser.

Young Children brushing their teeth
Young Children brushing their teeth

Sut i hybu iechyd y geg da.

Mae dannedd plant ifanc yn agored i bydredd pan fyddant yn bwyta gormod o fwydydd a diodydd sy’n llawn siwgr. Bydd osgoi bwydydd sy’n llawn siwgr a brwsio dannedd yn gyson â phast dannedd fflŵorid, yn benodol ar gyfer plant ifanc, yn helpu i atal pydredd dannedd. Dylid dechrau brwsio dannedd cyn gynted ag y mae’r dant cyntaf yn ymddangos a dylid parhau i wneud hynny drwy gydol bywyd. Bydd eich ymwelydd iechyd Dechrau’n Deg yn trafod iechyd y geg a’r rhaglen ‘Cynllun Gwên’ gyda chi ond gallwch hefyd ddysgu mwy am y cynllun fan hyn: ‘Cynllun Gwen’.

Hapus iawn gyda pha mor gyflym yr anfonwyd y manylion allan.
Posted by Rhiant, o Sir Gaerfyrddin
Call Now Button