Iaith a Chwarae

Flying Start Carmarthenshire, Carmarthenshire County Council, NHS, Welsh Government

Chwarae yw’r ffordd y mae plant yn dysgu sgiliau newydd ac iaith yw un o’r sgiliau pwysicaf y mae plant yn eu dysgu wrth iddyn nhw chwarae.

Hyrwyddo Chwarae

Rydyn ni’n sylweddoli mai rhieni a gofalwyr sydd â’r rhan fwyaf i’w chwarae yn natblygiad eu plentyn. Mae Gwasanaeth Iaith a Chwarae Dechrau’n Deg yn cynnig grwpiau Iaith a Chwarae i fabanod a phlant bach ledled ardaloedd Dechrau’n Deg i hyrwyddo pwysigrwydd chwarae yn natblygiad plentyn a ffyrdd y gall Rhieni a Gofalwyr ymgysylltu a’u plant.

Baby LAP session
LAP Activity

Sesiynau Iaith a Chwarae

Mae Dechrau’n Deg yn cynnig sesiynau Iaith a Chwarae sy’n darparu amrywiaeth o weithgareddau chwarae er mwyn datblygu iaith, sgiliau cyfathrebu a chymdeithasol mewn ffordd hwyliog a rhyngweithiol ar gyfer rhieni a’u phlant. Mae’r sesiynau’n cynnwys Amser Stori, Canu, Chwarae Anniben a Gweithgareddau Crefftau. Mae Dechrau’n Deg yn darparu sesiynau Iaith a Chwarae i fabanod rhwng 0 a 15 mis oed ac ar gyfer plant bach rhwng 16 mis a 3 oed.*

*Dim ond ar gyfer teuluoedd o fewn Ardaloedd Dechrau’n Deg

Gadewch i ni wneud amser stori yn gyffrous!

Gadewch i ni ganu rhai caneuon!

Rhai gweithgareddau hwyliog i chi a’ch plentyn

Cyfeiriad

Dechrau’n Deg
Cyn Ysgol Babanod y Morfa
Heol Newydd
Morfa
Llanelli
SA15 2DQ

Ffôn

01554 742447

E-bost

Dechraundeg@sirgar.gov.uk

Doeddwn i ond eisiau anfon nodyn o ddiolch ichi am eich holl waith ar wefan Gwasanaeth Gwybodaeth I Deuluoedd Sir Gaerfyrddin. Rwy’n gweithio ar gasglu ychydig o wybodaeth ar gyfer menter leol i addysgu plant a phobl ifanc ynghylch canlyniadau cyffuriau ac alcohol. Rwy’n gweithio ar baratoi pamffled ac rwyf wedi dysgu llawer o’ch tudalen. Sylwais fod gennych rai adnoddau gwych iawn. Da Iawn!
Posted by Rhiant, o Sir Gaerfyrddin
Call Now Button