Dechrau’n Deg Sir Gaerfyrddin

Pa wasanaethau allwn ni eu cynnig i chi?
Mae Dechrau’n Deg yn gweithredu ar sail ddaearyddol gan ddefnyddio codau post. Defnyddiwch y gwiriwr côd post i weld a yw eich côd post yn gymwys ar gyfer ein gwasanaethau.
Gwiriwr Côd Post
A ydych yn gymwys ar gyfer Dechrau'n Deg?
Ynghylch Dechrau’n Deg

Rhaglen a ariannir gan Lywodraeth Cymru yw Dechrau’n Deg ar gyfer plant rhwng 0 a 3 blwydd ac 11 mis. Mae’n cefnogi teuluoedd sy’n byw mewn adaloedd penodol yn Sir Gaerfyrddin, a ddiffinnir gan gôd post.

Cydnabyddir bod blynyddoedd cynnar plant yn gyfnod pwysig a bod profiadau’r adeg hon yn cael effaith sylweddol ar ddatblygiad plant yn y dyfodol felly mae’n bwysig iawn gwneud pethau’n iawn!
Bwrdd Hysbysiadau Dechrau’n Deg

Gwasanaeth Gofal Plant
Os oes gennych blentyn rhwng 2 a 3 oed ac yn byw mewn ardal Dechrau’n Deg, mae gan y plentyn fynediad at ofal plant o ansawdd wedi’i ariannu. Mae’r gofal plant hwn ar gael am 2 awr a hanner y dydd am hyd at 39 wythnos. Mae’n dechrau’r tymor ar ôl ail ben-blwydd y plentyn hyd at y tymor mae’n troi’n dair.
Gwasanaeth Rhianta
Bod yn rhiant fydd un o’r rolau fydd yn rhoi’r boddhad mwyaf I chi, ac weithiau, un o’r rolau mwyaf heriol hefyd! Am y rheswm hwnnw, mae gyda ni amrywiaeth o grwpiau i gefnogi mamau, tadau a gofalwyr. Fel arfer, cynhelir ein gweithdai mewn canolfannau plant neu ganolfannau teulu lleol ac maen nhw’n hwyliog ac anffurfiol, ac yn bwysicach na hynny, am ddim!


Gwasanaeth Ymwelwyr Iechyd
Nyrsys Iechyd y Cyhoedd yw Ymwelwyr Iechyd. Os yw’n gymwys, bydd Ymwelydd Iechyd Dechrau’n Deg yn cynnig gwasanaeth gwell i’r teulu o’r cyfnod cyn-geni tan 5 oed. *
*Defnyddiwch y gwiriwr cod post i weld a ydych chi’n gymwys ar gyfer y gwasanaeth hwn.
Gwasaneth Bydwreigiaeth
Mae ein Gwasaneth Bydwreigiaeth Dechrau’n Deg yn cynnig y canlynol i rieni yn ardal Dechrau’n Deg:
Paratoi ar gyfer esgor a gofalu am y babi, gyda chymorth un-i-un yn y cartref ac mewn grŵp.
Canolbwyntio ar iechyd emosiynol, lleihau straen a hyrwyddo ymlyniad/bondio cynnar.
Mynychu grwpiau lle gallant gwrdd a gwneud ffrindiau â mamau eraill.
Ein nod yw cynyddu’r nifer sy’n bwydo ar y fron yn yr ardal Dechrau’n Deg a thrafod y manteision drwy Hybu Iechyd.
Rydyn ni’n darparu arweiniad, mentora a chymorth drwy gydol y beichiogrwydd gan hybu hunan-barch a chynyddu hyder.
Rydyn ni’n cynnig cefnogaeth emosiynol yn y cyfnod ar ôl geni – cyfnod lle mae’r rhan fwyaf o famau’n teimlo bod cael babi newydd yn gallu bod yn heriol.
*Gwasanaeth cyfeirio yn unig yw hwn. I gael mynediad ato bydd angen atgyfeiriad arnon ni gan eich bydwraig neu ymwelydd iechyd.


Gwasanaeth Iaith Gynnar
Mae dysgu siarad yn rhan hanfodol o ddatblygiad a thwf cynnar babanod a phlant. Bydd siarad â’ch babi o’r enedigaeth a chynnig ystod eang o weithgareddau ysgogol iddo/iddi yn datblygu ei sgiliau siarad. Mae’n ei helpu i ddysgu, i lwyddo ac i fod yn barod ar gyfer yr ysgol.
Gwasanaeth Gofal Cymdeithasol
Mae ein Tîm Gofal Cymdeithasol yn cynnwys Gweithwyr Cymdeithasol, Gweithwyr Prosiect Cam-drin Domestig a Swyddogion Cymorth. Maen nhw’n darparu pecynnau cymorth i deuluoedd mewn rhai ardaloedd Dechrau’n Deg.
*Defnyddiwch y gwiriwr cod post i weld a ydych chi’n gymwys ar gyfer y gwasanaeth hwn.

Cyfeiriad
Dechrau’n Deg
Cyn Ysgol Babanod y Morfa
Heol Newydd
Morfa
Llanelli
SA15 2DQ
Ffôn
01554 742447
E-bost
Dechraundeg@sirgar.gov.uk




