Iaith A Chwarae

Flying Start Carmarthenshire, Carmarthenshire County Council, NHS, Welsh Government

Chwarae yw’r ffordd y mae plant yn dysgu sgiliau newydd ac iaith yw un o’r sgiliau pwysicaf y mae plant yn eu dysgu wrth iddynt chwarae.

Hyrwyddo Chwarae

Rydym yn sylweddoli mai rhieni a gofalwyr sydd â’r rhan fwyaf i’w chwarae yn natblygiad eu plentyn. The Mae Gwasanaeth Iaith a Chwarae Dechrau’n Deg yn cynnig grwpiau Iaith a Chwarae i fabanod a phlant bach ledled ardaloedd Dechrau’n Deg i hyrwyddo pwysigrwydd chwarae yn natbligiad plentyn a ffyrdd y gall Rhieni a Gafalwyr ymgysylltu a’u plant.

Baby LAP session
LAP Activity

Sesiynau Iaith A Chwarae

Mae Dechrau’n Deg yn cynnig sesiynau Iaith a Chwarae sy’n darparu amrywiaeth o weithgareddau chwarae er mwyn datblygu iaith, sgiliau cyfathrebu a chymdeithasol mewn ffordd hwyliog a rhyngweithiol ar gyfer rhieni a’u phlant. Mae’r sesiynau’n cynnwys Amser Stori, Rhannu Llyfrau, Canu, Chwarae Anniben a Gweithgareddau Crefftau. Mae Dechrau’n Deg yn darparu sesiynau Iaith a Chwarae i fabanod rhwng 0 a 15 mis oed ac wrth i blant dyfu a datblygu, mae sesiynau Iaith a Chwarae pellach ar gael ar gyfer plant bach rhwng 16 mis a 3 oed.*

*Dim ond ar gyfer teuluoedd o fewn Ardaloedd Dechrau’n Deg

Gadewch i ni wneud amser stori yn gyffrous!

Gadewch i ni ganu rhai caneuon!

Rhai gweithgareddau hwyliog i chi a’ch plentyn

Siaradais â menyw gyfeillgar a chymwynasgar iawn pan ffoniais.
Posted by Rhiant, o Sir Gaerfyrddin
Call Now Button